Skip to main content
A partnership with

Cymorth

Rydym ni’n hapus i helpu os oes cwestiynau neu sylwadau gennych am Brosiectau’r Bobl.

Os ydych chi'n derbyn neges gwall wrth geisio pleidleisio ar-lein, sicrhewch eich bod wedi cwblhau'r meysydd gofynnol yn gywir. Er enghraifft, dim ond eich cod post y dylid ei gynnwys yn y maes cod post. Os ydych chi'n dal i gael trafferth gyda'r bleidlais ar-lein, anfonwch e-bost at ThePeoples.Projects@tnlcommunityfund.org.uk gyda chymaint o fanylion am y broblem â phosibl.

  • Gallwch bleidleisio am un prosiect ym mhob rhanbarth. Mae’n rhaid bod gennych chi gyfeiriad e-bost dilys neu rif ffôn yn y DU i bleidleisio.

    Dal angen cymorth? Cysylltwch â’n llinell gymorth

  • Gallwch bleidleisio am un prosiect ym mhob rhanbarth. Mae’n rhaid bod gennych chi gyfeiriad e-bost dilys neu rif ffôn yn y DU i bleidleisio.

  • Gallwch bleidleisio am brosiect ar y rhestr fer unrhyw le yn y DU yn amodol ar y Telerau ac Amodau.

  • Oes, dim ond un prosiect fesul rhanbarth y gallwch bleidleisio drosto. Mae’n rhaid bod gennych chi gyfeiriad e-bost dilys neu rif ffôn yn y DU i bleidleisio.

  • Gallwch bleidleisio dros un prosiect fesul rhanbarth gan ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost.

  • Mae prosesau cadarn ar waith i sicrhau bod y bleidlais yn deg a chywir. Caiff y bleidlais ei monitro a’i dilysu gan feirniad annibynnol, Civica Election Services.

  • Mae’r bleidlais yn agor i bob prosiect am 9am ar Ddydd Llun 15 Mai 2023 ac yn cau am ganol dydd ar Ddydd Gwener 26 Mai 2023.

  • Anogwn i bawb yn y DU gymryd rhan. Fodd bynnag, sicrhewch eich bod wedi darllen a chydymffurfio â’r Telerau ac Amodau a’r wybodaeth a amlinellir am yr oedran bleidleisio, sy’n nodi y dylai pobl o dan 13 oed ofyn am ganiatâd rhiant/gwarcheidwad cyn pleidleisio.

  • Dilysiad e-bost

    Os na wnaeth yr e-bost cadarnhau pleidlais eich cyrraedd, chwiliwch yn eich blwch derbyn, ffolderi sbam a sothach am "Prosiectau'r Bobl". Efallai y bydd oedi cyn derbyn e-byst gyda rhai darparwyr gwasanaeth, megis Hotmail a Yahoo.

    Dilysiad ffôn symudol SMS


    Dylech dderbyn eich cod dilysu SMS o fewn munud. Os na chaiff yr SMS ei anfon ar ôl munud, bydd angen i chi glicio ar "ail-anfon y cod". Os yw'r SMS dal heb gyrraedd ymhen un munud, bydd angen i chi glicio ar "newid i bleidlais e-bost" a nodi cyfeiriad e-bost i’w ddilysu a bydd e-bost yn cael ei anfon atoch.

    Os nad ydych wedi derbyn e-bost ar ôl dwy funud, ychwanegwch no-reply@emails.thepeoplesprojects.org.uk i'ch cysylltiadau neu restr anfonwyr diogel - byddwn yn anfon e-bost cadarnhau arall at bleidleiswyr e-bost heb eu cadarnhau tua diwedd y cyfnod pleidleisio.

  • I bleidleisio, mae’n rhaid i chi gael cyfeiriad e-bost neu rif ffôn symudol dilys a bydd angen i chi ddarparu cod post yn y DU fel rhan o’ch pleidlais. Os ydych chi’n dewis dilysu eich pleidlais trwy ffôn symudol, dim ond rhifau symudol yn y DU a dderbynnir.

  • Byddan, cyhyd â bod ganddyn nhw gyfeiriad e-bost dilys unigol.

  • Ar gyfer prosiectau mewn rhanbarth ITV, bydd enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar Ddydd Iau 1 Mehefin 2023 ar eu darllediad newyddion ITV rhanbarthol am 6pm. Bydd yr enillwyr hefyd yn cael eu rhestru ar y wefan hon y bore canlynol.

    Ar gyfer prosiectau yn Yr Alban, bydd enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar Ddydd Sul 4 Mehefin 2023 ym mhapur newydd wythnosol y Sunday Mail. Bydd yr enillwyr hefyd yn cael eu rhestru ar y wefan hon y bore canlynol.

  • Oes, mae gan bob fideo drawsgrifiadau ar gael i’w lawrlwytho