Skip to main content
A partnership with

Telerau Defnydd

Mae gwefan Prosiectau'r Bobl (“y Wefan”) yn eiddo i'r Gronfa Loteri Fawr, sy’n gweithredu fel Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, o 1st Floor Peel Building, 2 Marsham Street, London, SW1P 4DF.

Defnyddio'r wefan

Gallwch ddefnyddio'r Wefan hon yn amodol ar y telerau ac amodau hyn.. Mae'ch mynediad chi at y Wefan hon a'ch defnydd ohoni'n golygu eich bod yn derbyn y telerau ac amodau hyn.

Pleidleisio

Gall defnyddwyr y Wefan hon bleidleisio dros y mudiad y maent eisiau iddo dderbyn grant gwerth hyd at £70,000. Mae'r pleidleisiau'n destun yr Amodau a Thelerau Pleidleisio sydd wedi'u cynnwys yn y Wefan hon.

Eiddo deallusol/ hawlfraint

Mae'r holl gynnwys gwe gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r testun, sain, fideo ac animeiddio a osodir yn uniongyrchol ar y Wefan hon gan y Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn destun hawlfraint neu drwydded Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol(Deunydd y Gronfa). Ni allwch aildrawsnewid, aildrawsyrru, ailddosbarthu neu fel arall ddarparu Deunydd y Gronfa i unrhyw barti arall neu mewn unrhyw gyfrwng arall heb dderbyn awdurdodaeth flaenorol a phriodol.

Mae'r enwau, delweddau a logos sy'n adnabod y Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn farciau perchnogol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac ni ellir eu hatgynhyrchu heb gael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Dylid cyfeirio ceisiadau am y cyfryw gymeradwyaeth i:

The National Lottery Community Fund
1st Floor Peel Building,
2 Marsham Street, London,
SW1P 4DF

Ffôn: 020 7211 1800
Ffacs: 020 7211 1750

E-bost: branding@tnlcommunityfund.org.uk

Nid yw'r Wefan a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am dor hawlfraint a wneir gan unrhyw drydydd parti sy'n deillio o gyhoeddi'ch cynnwys ar y Wefan.

Polisi dolenni

Nid oes angen i chi ofyn am ganiatâd i greu dolenni uniongyrchol i dudalennau a ddelir ar y Wefan hon. Fodd bynnag, nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho i fframiau ar eich gwefan chi. Mae'n rhaid i'n tudalennau Ni lwytho i ffenest gyfan y defnyddiwr.

Rydym yn creu dolenni dim ond i dderbynyddion ein grantiau, ein partneriaid a gwefannau y maent yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol sy'n ategu ein gwasanaethau gwybodaeth ein hunain. Mae unrhyw ddolenni sy'n creu cysylltiadau rhwng y Wefan a gwefannau eraill yn cael eu darparu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaetholer cyfleuster yn unig, a thrwy hygyrchu'r gwefannau cysylltiedig hynny rydych yn cytuno i unrhyw delerau mynediad neu ddefnydd sy'n ofynnol yn y gwefannau cysylltiedig hynny.

Er mwyn osgoi amheuaeth, mae'n bosib y byddwn ni'n mynnu eich bod yn dileu unrhyw ddolenni i'r Wefan hon o dan amgylchiadau pan fydd eich defnydd chi'n gyfystyr â gweithgarwch amhriodol a/neu heb ei awdurdodi, megis defnyddio'r wefan hon i hyrwyddo mudiadau trydydd parti sy'n gwneud elw ond heb fod yn gyfyngedig i hynny

Nid Ydym yn gyfrifol am gynnwys, cywirdeb, barn neu ddolenni o'r gwefannau hyn ac nid ydym yn darparu unrhyw warant, neu'n ymgymryd ag unrhyw gyfrifoldeb mewn perthynas ag ansawdd, cywirdeb neu ffynhonnell.

Atebolrwydd

I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn atebol (gan gynnwys trwy esgeulustra) o gwbl am golli elw, colli refeniw, colli data, colli defnydd o ddata; neu unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ddilynol, a geir gennych chi neu unrhyw barti arall neu a ddyfernir yn eich erbyn chi neu unrhyw barti arall sy'n deillio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o'ch mynediad i neu ddefnydd o'r Wefan (neu unrhyw wefan gysylltiedig); neu unrhyw gost, colled, atebolrwydd neu draul sy'n deillio o farwolaeth, anaf personol neu ddifrod i eiddo (gan gynnwys difrod i'ch meddalwedd, caledwedd neu ddata) sy'n deillio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o'ch mynediad i neu ddefnydd o'r Wefan (neu unrhyw wefan gysylltiedig).

Rydych chi'n indemnio ac yn cadw Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol,, ei chyflogeion, ei swyddogion a'i hasiantau yn rhydd rhag ac yn ddiniwed yn erbyn unrhyw hawliadau, atebolrwydd, treuliau, colledion, niwed a chostau (gan gynnwys costau a threuliau cyfreithiol) (“Colled”) a geir gan unrhyw rai o'r sawl sydd wedi'u hindemnio pan achoswyd y cyfryw Golled yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o ganlyniad i:

a. eich mynediad i neu ddefnydd o'r Wefan; neu

b. unrhyw Gyfraniadau a wneir gennych chi (neu ar eich rhan) i'r Wefan (gan gynnwys, heb gyfyngiad, Colled a achoswyd gan unrhyw hawl bod eich Cyfraniad chi'n torri ar draws hawliau eiddo deallusol neu hawliau eraill unrhyw barti).

Ymwadiad

  • Rydych yn cydnabod eich bod yn defnyddio'r Wefan yn gyfan gwbl ar eich menter eich hun. Nid ydym yn gwarantu bod ein gwefan yn ddiogel nac yn rhydd o fygiau neu firysau.
  • Nid yw Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am unrhyw gynnwys sy’n dod o ffynonellau nad ydynt yn dod o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Nid ydym ni’n tystio nac yn gwarantu cywirdeb, cyflawnder neu ddefnyddioldeb unrhyw gynnwys o’r fath, ac nid ydym yn gyfrifol am gynnwys unrhyw ddeunydd neu bostiadau a gyflwynir.
  • Darperir yr holl gynnwys ar sail “FEL Y MAE” yn unig. Ni allwn warantu y bydd y Wefan neu unrhyw gynnwys a ddarperir yn diwallu unrhyw un o'ch anghenion neu ofynion neu y bydd yn gyflawn, heb unrhyw wallau, yn gywir neu y caiff ei gyflwyno heb ymyrraeth, diffyg neu wall. Gan hynny, ac i'r graddau mwyaf posib a ganiateir gan y gyfraith berthnasol, trwy hyn rydym yn ymwrthod â phob gwarant ac amod, waeth p'un a ydynt yn echblyg, ymhlyg neu'n statudol, mewn perthynas â'r Wefan a'r cynnwys gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, unrhyw warant o ansawdd neu ffitrwydd boddhaol at ddiben penodol ac osgoi tor hawlfraint o ran hawliau trydydd parti.
  • Rydych yn cytuno y byddwch yn cydymffurfio â phob deddf a rheoliad perthnasol ac na fyddwch yn defnyddio'r Wefan yn fwriadol at unrhyw ddiben amhriodol neu anghyfreithlon (gan gynnwys torri unrhyw Hawliau Eiddo Deallusol).

Manylion cyswllt a gwybodaeth bellach

I gael set copi caled o'r amodau a thelerau hyn, anfonwch amlen hunangyfeiriedig â stamp arni i The National Lottery Community Fund, 1st Floor Peel Building, 2 Marsham Street, London, SW1P 4DF.

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cadw'r hawl i ddiwygio'r amodau a thelerau hyn o bryd i'w gilydd, ac felly dylech wirio'r termau hyn yn rheolaidd.

Adrodd am broblemau neu wneud cwyn

Gallwch adrodd am unrhyw sylwadau neu gwynion am y Wefan hon trwy: anfon e-bost i webmaster@tnlcommunityfund.org.uk neu ffonio llinell gwasanaeth cwsmeriaid Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaetholar 020 7211 3700.

9. Manylion cyswllt a gwybodaeth bellach

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaetholyn ymrwymedig i ddiogelu'ch preifatrwydd. Mae'r datganiad Preifatrwydd hwn yn berthnasol i'n Gwefan ni'n unig. Gallwch weld polisi preifatrwydd ar wahân (yma) ar sut rydym yn casglu ac yn defnyddio'ch gwybodaeth os ydych chi’n ymgeisio am grant gennym.


Weithiau gall y data hwn gyfaddawdu data personol y mae deddfau diogelu data'r Deyrnas Unedig yn berthnasol iddo. Caiff yr holl ddata personol a gesglir ei gadw'n ddiogel gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn unol â Deddf Diogelu Data 2018. Ni chaiff yr holl gyfryw ddata ei rannu gydag unrhyw drydydd parti gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaetholoni bai bod y gyfraith yn mynnu hyn.

Cysylltu â gwefannau eraill

Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau sefydliadau eraill. Mae’r polisi preifatrwydd hwn (yr un rydych chi’n ei ddarllen) ond yn berthnasol i wefan Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Dilyn dolen i wefan arall

Os ydych chi’n mynd i wefan wahanol o’r un hon, darllenwch y polisi preifatrwydd ar y wefan hon os hoffech chi wybod yr hyn y mae’n ei wneud gyda’ch gwybodaeth.

Dilyn dolen i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol o wefan arall

Pan fyddwch chi’n dod i ni o wefan arall, mae’n bosibl y byddwn ni’n cael gwybodaeth bersonol amdanoch chi o’r wefan arall. Dylech chi ddarllen polisi preifatrwydd gwefannau yr ydych chi’n eu hymweld â nhw sy’n eich cysylltu â ni os hoffech chi wybod am hyn.

Cyfraith Lywodraethu

Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dadansoddi’n unol â chyfreithiau Lloegr a Chymru yn unig ac rydych chi’n ufuddhau’n ddi-droi’n ôl i awdurdodaeth llysoedd Lloegr a Chymru.